barnad I ifor a nest i wraig ef
1 henaint anghowraint a hiraeth a ffoen
2 a ffenyd fal blaen saeth
3 marw Ifor nid rhagoriaeth
4 a marw nest mae kymry/n/ waeth
5 Mae/n/ waeth am dadmaeth mae dor rhom ag ef
6 yn gyfing ymlaen cor
7 marw nest mae farwest yn for
8 morwyn nef marw iawn Ifor
9 Gorav oedd Ifor ai gorff syth / yn rhi
10 yn rhoi deifr ar esyth
11 a fv/n/ ddigel wehelyth
12 ar ysydd ag a fydd fyth
13 Nid a byth om nyth annwyd i gerddawr
14 a gerddai gylch y byd
15 ni chan fy nevfraich enyd
16 ni chaf ni feddaf hawddfyd
17 Hawddfyd a gyfyd digofiaint
calon
18 a hiraeth ir fron honn o henaint
19 herwydd wylaw glaw glas ennaint orchest
20 am Ifor a nest mwyfwy ywr naint
21 Haelddofydd trennydd hwyl trinaint am pair
22 gweled nest ni chair crair gair gywraint
23 rhaglyw afael yw nev ofeiliaint poen
24 keinllyw haf oroen caen llifeiriaint
25 [259] wrth weled cyried cariad saint am f[ ]
26 ag annwylyd prvdd a gynheiliaint
27 Nest wengoeth winddoeth wynddaint ag Ifor
28 a mwy no rhagor im anrhegaint
29 a llvchwin o wydr ni llochaint arail
30 a medd o fvail mwy ddifeiaint
31 a rhvddavr a main yn rhoddiaint bob awr
32 a hebogav mawr ym hebygaint
33 hir ddoniav ir ddav hwyr yddaint dan gel
34 y gyd i ochel ne/i/ godechaint
35 ag vn dyn ydyn nim oedaint / am fvdd
36 ag vn ddadl anvdd am fvdd
fry fvddaint
fyddaint
37 llyw llygr gaer yn aer ni wnaint / yn eiddil
38 antvriai nowmil mewn twrneimaint
39 llys fasaleg deg dygaint / hawddamor
40 a gwawr i hevrllawr lle mawr meddwaint
41 llei bydd lleferydd llifeiriaint / gwinllestr
42 agolev fenestr ag oelfeiniaint
43 llafnfriw llwrw iownwiw llyr ennaint / eingl grwydr
44 a llew ysigfrwydr llvosawgfraint
45 llorf llv llid garv lledw geraint / ymro
46 llwydo a wnaf hvno nef i henaint
Dauid ap glm' ai cant